I ni’n cynnal Ysgol Sul bob bore Dydd Sul yn dechrau am 10.30 yb yn y festri.
Mae croeso i blant a phobl ifanc - bob oedran
Ysgol Sul 24ain o Awst 2025
Heddiw, dysgodd ein plant ieuengaf am stori Arch Noa. Fe wnaethon ni ddarllen y stori, gwneud ychydig o grefftau, ac ychwanegu’r ‘finishing touches’ at ein harch fach ein hunain!
Fe wnaethon ni siarad am sut roedd Noa yn ymddiried yn Nuw, ac am addewid Duw pan roddodd Ef enfys yn y nefoedd fel arwydd o’i gariad a’i ffyddlondeb.
📖 “Yr wyf wedi gosod fy enfys yn y cymylau, ac fe fydd yn arwydd o’r cyfamod rhyngof fi a’r ddaear.” – Genesis 9:13
Mae Duw yn ffyddlon—ac fel Noa, gallwn ymddiried ynddo Ef hefyd.