Rwy’n hoff iawn o emyn Minimus, “O disgynned yma nawr Ysbryd Crist o’r nef i lawr” sef rhif 588 yn Caneuon Ffydd. Rydym newydd ddathlu’r Sulgwyn a chael ein hatgoffa pan mae’r Ysbryd Glân yn disgyn, mae pawb yn gwybod bod hynny wedi digwydd.
Pan ddaeth ar ddydd cyflawniad y Pentecost roedd “sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro” i’w glywed yn llenwi’r lle (Actau 2 ad 1 - 4) ac roedd pawb yn gweld ei ddylanwad wedyn yn eu plith. Yn nhŷ Cornelius “synnodd y credinwyr Iddewig ...... am fod rhodd yr Ysbryd Glân wedi ei thywallt” (Actau 10:45)
Nid oedd neb heb wybod bod rhywbeth arbennig iawn wedi digwydd yn eu plith ac roedden nhw’n synnu at ddawn yr Ysbryd Glân i wneud gwahaniaeth ac i beri i bobl nad oedden nhw gynt yn rhan o deulu’r ffydd gael ei geni drachefn yn blant i Dduw.
Yng Ngharmel Pontlliw hiraethwn am yr awel gref a’r tafod tân a gweddïwn gyda’r emynydd “O na ddoi’r nefol wynt i chwythu eto.”
Daliwn ati i ddisgwyl oddiwrth yr Arglwydd.
H.Vincent Watkins (Gweinidog)