Wythnos Cymorth Cristnogol
Cafwyd amser da yng Ngharmel ar fore Sadwrn 18fed o Fai. Gwledd o frecwast a phawb yn mwynhau gwylio a chware bwrdd tenis. Diolch yn fawr i bawb a helpodd ac i bawb am gefnogi. Codwyd dros £500 o bunoedd tuag at waith Cymorth Cristnogol.