Ar fore Sadwrn 18fed o Fai fe gynhaliwyd rhywbeth gwahanol iawn i ni yng Ngharmel, sef brecwast i’r teulu cyfan, gyda’r elw yn mynd at “Cymorth Cristnogol.” Da yw nodi fod rhyw bum deg wedi dod ynghyd o bob oedran. Roedd sawl teulu wedi dod o “Ti a Fi”, rhai o’r Ysgol Sul a llawer o aelodau a ffrindiau’r Eglwys.
Roedd pawb wedi mwynhau’r bwyd blasus, a’r awyrgylch hyfryd yn y festri. Roedd cyfle i bawb i ymuno yng nghystadleuaeth bwrdd tenis. Roedd y gemau yn gyffrous iawn - roedd e’n dda i weld cymaint o bobl o bob oed yn cystadlu!
Casglwyd £230 ar gyfer Cymorth Cristnogol.
Diolch i bawb a gefnogodd y fenter ac i bawb oedd wedi helpu. Dw i’n siŵr y byddwn yn paratoi brecwast arall yn y dyfodol!