Neges y Gweinidog
Mae Mis Ebrill wedi cyrraedd eleni eto ac rydym eisoes wedi cael cyfle i gyhoeddi
“Yr Arglwydd a gyfododd, yr Arglwydd a gyfododd yn wir”
Fel y dywedodd y Parchg Peter Thomas, cyn-ysgrifennydd Undeb Bedyddwyr Cymru rhywdro, Pobl y Pasg mewn Groglith o fyd yw Cristnogion. Yn gwybod o brofiad bod yr Iesu eto’n fyw, a’r gwaith sydd dan ei law.
Dyw hynny wrth gwrs ddim yn lleihau nac yn negyddu'r ffaith fod y dasg o gyflwyno’r Efengyl yn y Gymru gyfoes yn mynd yn anoddach o flwyddyn i flwyddyn. Er hynny, diolchwn yma yng Ngharmel am gefnogaeth gyson tîm o weithwyr selog a ffyddlon i waith yr Arglwydd Iesu. Halen y ddaear a goleuni’r byd yng ngwir ystyr y gair. Gall neb wadu fod y gelyn yn gryf, ond diolch byth mae’n Duw ni yn gryfach. Pwyswn arno am gryfder ac am gyfeiriad. Pwyso ar Iesu dyma gryfder sydd yn dal y pwysau i gyd.
Peidiwn ag edrych i gyfeiriad y byd, fe fydd hynny yn siŵr o’n digalonni. Edrychwn i gyfeiriad yr Iesu a’i groes a chofiwn
“Bu rhyw frwydr rhyfedd iawn ar Galfaria ------
cafwyd buddugoliaeth lawn Haleliwia”
Mae’r Iesu wedi cario’r dydd caiff carcharorion fynd yn rhydd.
H.Vincent Watkins (Gweinidog)