Hanes Carmel

Dyma lun o Garmel rhyw 50 mlynedd yn ôl. Does dim tŷ arall i’w weld!

Diolch i Mrs Rosemary Walters am y llun.

BEDDAU BACH Y TU ALLAN I DDRWS Capel Carmel, Pontlliw.

Tystiolaeth Mr. Islwyn James, Cilystarn, Perthynas y Teulu.

Adeg ein plentyndod ym mhedwardegau yr ugeinfed ganrif, un o enwogion y pentref oedd y gantores broffesiynol Madam Sarah Ellen Aubrey, merch Mr a Mrs Tom John, Heol Bryntirion. Am flynyddoedd hi fu'n gofalu am y beddau bychan a'u gwyngalchu, ac ar ôl ei dydd hi fe'u diogelwyd gan Mrs Rachel Mary Clement, fferm Bryn Bach ac yna’i merch Mrs Millie Thomas.

Codwyd Mrs Aubrey yn Felindre mewn ffermdy o'r enw Ffynnonfedw gyda’i rhieni. Mab oedd Tom, ei thad, i Mr Thomas John (1828 -1900), diacon yng Ngharmel, a'i wraig Eleanor (gynt Clement) Wyres felly i Eleanor oedd Mrs Aubrey. Yr oedd rhai o blant teulu Eleanor Clement, Ffynnonfedw, ymhlith y babanod a gladdwyd yn y beddau bach. Buont farw o'r pla 'cholera' (y geri marwol) a dŵr y ffynhonnau oedd tarddiad yr epidemig. Yn ei gyfrol Hanes Cymru dywed Dr. John Davies:

'Cofnodwyd y geri marwol (cholera) gyntaf ym Mhrydain yn 1832

pan fu farw 160 ym Merthyr a 152 yn Abertawe o ganlyniad i'r

afiechyd. Roedd epidemig 1848-49, pan laddwyd 1,682 ym Merthyr

yn unig, yn greulonach o lawer'.

Tybir mai ym mhedwardegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg y claddwyd y plant yng Ngharmel. Codwyd Capel cyntaf Carmel yn 1834. Yn ôl Mr Islwyn James, casglwyd y cyrff mewn gambo liw nos a diau mai yn nüwch y nos y claddwyd hwy. Yn sgil yr epidemig daeth yr alwad gan y Llywodraeth i awdurdodau Ileol gloddio cronfeydd dŵr a chyflenwi dŵr pur yn ogystal â glanhau'r strydoedd a gwneud carthffosydd.

Mae'n dda fod gofal am y beddau bach yn parhau.

(Yng nghartref Mr a Mrs Tom John, rhieni Mrs Aubrey, y dechreuodd Ysgol Sul Bethesda Felindre yn 1909.)

D.I.D. Gorffennaf 2013.


Mae’r llun yma wedi cael ei gymryd yn 1950. Mae un o’r cyn weinidogion Mr Rhydwen Williams yno a’r prif athro Mr Clee. Os ydych a fwy o wybodaeth cysylltwch â ni

Gweinidog a Swyddogion yr Eglwys Mis Medi 2009

Here is a newspaper cut-out pertaining to the "Special Service of Thanksgiving" held at Carmel to celebtate the installation of the "new organ".

Other senior members of Carmel would recognise all the characters but my knowledge of their names would be, from left to fright,

1) Mr Coslet Davies ?

2) Mr Willy Walters

3) Mr David Mathias

4) Mr John Gwenter

5) unknown

6) Mr Ivor Owen, organist

7) Miss Annie Grey, Carmel's resident organist

8) unknown

9) Mr John Emlyn Mathias

10) Mr Cyril Morgan

11) Mr John Walters

12) Mr Hardin Thomas

( Anfonwyd gan Mr Rhydwen Mathias.)

Diolch.


Hanes Eglwys y Bedyddwyr Carmel Pontlliw, Abertawe

Crynodeb o hanes Eglwys y Bedyddwyr Carmel Pontlliw, Abertawe

Saif Capel Carmel mewn man coediog ger yr heol A48, ryw saith milltir i’r gorllewin o ddinas Abertawe, Dechrau’r 19eg Ganrif, roedd clwstwr o ffermydd bychain o amgylch Pontlliw, ond yr oedd yn bentref o bwys gan fod yno Felyn Wlân a Gwaith Haearn - Lliw forge.

Cynhaliwyd cyfarfodydd cychwynnol yr Achos yn ystordy Golosgoed y Forge pan wahoddwyd John Pugh, Gweinidog ‘Siloam’ Cila, i bregethu ac yna bu’n weinidog Carmel am 14 o flynyddoedd. Derbyniwyd Carmel i Gymanfa Bedyddwyr Morgannwg ym 1843.

O’r cychwyn y mae Carmel wedi cynnal gweinidogaeth y Gair a Gofal Bugeiliol yn rheolaidd a chyson, a mae hyn wedi parhau hyd at yr 21ain Ganrif. Y Gweinidog presennol yw H. Vincent Watkins, ac yntau’n hanu o deulu’r gŵr a’r wraig gyntaf i’w bedyddio yno ym 1832.

Y mae hanes clodwiw'r Ysgol Sul yn ymestyn yn ôl i 1840 o leiaf a hyd at heddiw y mae pwyslais ar Addysg Grefyddol ac esbonio’r Ysgrythurau. Agorwyd dwy gangen o’r Ysgol Sul ar ddechrau’r 20fed Ganrif. Datblygodd Ysgol Sul Pengelli (Grovesend) yn Eglwys Bethania ym 1908.

Ychwanegwyd Festri i’r Capel ym 1893. Ym Mawrth, 1996, agorwyd Festri newydd, adeilad ar wahân, gerllaw'r Capel, ac ynddo ceir yr amwynderau mwyaf modern sy’n gyson a Rheoliadau Iechyd a Diogelwch. Mae’r Festri bellach yn ganolfan Gristnogol i drigolion y pentref.

Parhad yw un o nodweddion Carmel, ond eto y mae wedi ymateb i amgylchiadau amryfal y blynyddoedd. Eglwys Gymraeg ei hiaith ydoedd yn gychwynnol ond wedi’r Ail Ryfel Byd, cynhaliwyd oedfaon dwyieithog ar fore Sul ac oedfa Gymraeg yn y prynhawn. Y mae nifer o ymwelwyr yn tystio iddynt brofi yma gyfeillach a chyfeillgarwch pentref gwledig.

Hanfod ei chredo a’i bywyd yw Iesu Grist yn Arglwydd y byd a Gwaredwr dynolryw. “Yn nyddiau hedd a dyddiau loes,” fe ddyrchafwyd “Gŵr Rhyfedd y Groes.”


Yn y llun, fe welwch rhai o gyn-aelodau Peniel, Pontlliw, yn dilyn oedfa arbennig i ddathlu cychwyn yr achos yn Peniel. Yn anffodus, daeth yr achos i ben rhyw flynyddoedd yn ôl, a datgorfforwyd yr Eglwys. Da yw dweud bod nifer dda o aelodau Peniel wedi ymuno â ni yng Ngharmel. ’Rydym yn mwynhau cyfeillach gynnes.