Taith Cerdded 2021

Ar Ddydd Sadwrn 25ain o Fedi aeth grŵp o' r capel ar daith gerdded noddedig o amgylch Cwm Ivy yng Ngŵyr. Yr oeddem yn casglu arian tuag at apêl Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr ar gyfer Afghanistan. Offrymwyd gweddi ddwys gan y gweinidog am fendith Duw ar ddechrau'r daith ac am ei nodded i bobl Afghanistan. Codwyd swm sylweddol.

Roedd pawb wedi mwynhau'r daith a chael bendith yng nghwmni eu gilydd dan arweiniad yr Ysbryd Glân.