|
Neges y Gweinidog |
|
Eglwys y bedyddwyr carmel baptist church pontlliw |
|
Hafan |
|
English |
|
Ble i ni? |
|
Beth sydd mlaen |
|
Hanes yr Eglwys |
|
Ymlaen mis yma |
|
Cysylltwch â ni : negeseuon@carmelpontlliw.co.uk
Parchg. H. Vincent Watkins 01792 771650
|
|
Digwyddiadau |
|
Ti a Fi |
|
Ysgol Sul |
|
Gwefannau |
|
Mae ’na rhywbeth cyffrous mewn dechreuadau. Dechrau ysgol, dechrau coleg, dechrau swydd newydd. Dechrau blwyddyn newydd. Ar ddechrau 2012, ein braint yw edrych yn ôl yn ddiolchgar dros ysgwydd y flwyddyn a aeth heibio, ac ymlaen yn ddisgwylgar i’r flwyddyn sydd i ddod. Beth am droi geiriau’r emyn yn weddi Rho fwy o gariad at dy waith Rho fwy o sêl bob cam o’r daith; Ar bethau’r tŷ rho fwy o flas Y flwyddyn hon rho ras am ras. Ni wyddom beth a ddigwydd yn ystod y flwyddyn ond gwyddom y byddwn yn ddiogel gyda’n llaw yn llaw ein Duw.
Blwyddyn newydd dda i chi gyd.
Vincent Watkins Gweinidog. |