|
Salm 5 Nesau at Dduw - dyna yw gweddi. Nid dyletswydd, nid disgyblaeth, nid ymarfer crefyddol sy’n rhaid ei gyflawni. Gweddi - ein braint mwyaf, ein adnodd mwyaf pwerus. Dod i mewn i bresenoldeb y Duw Hollalluog, dod o’i flaen yn bersonol er mwyn addoliad a chymdeithas a gosod allan ger ei fron ein dyheadau sy’n unol a’i ewyllys. Yr adnodau agoriadol yn disgrifio’r gwahanol ffyrdd sydd gennym i nesau at Dduw mewn gweddi. Dafydd yn gofyn i Dduw i rhoi clust i’w eiriau. Meddwl, ynghanu geiriau sy’n cael eu anelu at Dduw. Hefyd yn gofyn i Dduw ystryried ei ocheneidiau. Dymuniadau mewnol na fedrwn rhoi mewn geiriau. Dafydd yn erfyn i Dduw ei dderbyn a’i dehongli. Yn debyg iawn i osodiad Paul am y modd y mae’r ysbryd yn ein cynorthwyo mewn gweddi. Rhufeiniaid 8 (26) Y mae’r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid oherwydd ni wyddom ni sut y dylem weddio ond y mae’r ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau. Yn drydydd Dafydd yn dweud gwrando ar fy nghri am gymorth. Mewn perygl, ofn, temtasiwn, yr unig beth y mae plentyn Duw yn gallu gwneud yw galw ar ei Dad Nefol am gymorth. Nesau at Dduw yw gweddi - geiriau, ocheneidiau, cri. Adnod 3 Ychwanegu cyngor gwerthfawr ar sut y dylem nesau at Dduw. Gweddio wedi cyfnod o baratoi ein hunain a’n meddyliau. NIV Adnod 3 In the morning I lay my requests before you. Y gair y mae Dafydd yn defnyddio yn golygu “trefnu’n ofalus” fel yr offeiriad yn trefnu’r aberth ar yr allor ar gyfer offrwm boreol bob dydd. Er mwyn i’n bywyd gweddigar fod yn effeithiol mae rhaid bod trefnu gofalus yn digwydd. Rhaid trefnu’n meddyliau cyn gweddio. Meddwl am gymeriad Duw - ei sancteiddrwydd a’i ddaioni, ei drugaredd, ei allu, ei gariad - a’r ffordd a drefnwyd ar gyfer ein iachawdwriaeth cyn llunio’r byd. Rhaid dwyn i gof ein haml bechodau er mwyn eu cyffesu, a’r pethau penodol sy’n ein herio, a’r treialon a wynebwn er mwyn i ni dderbyn cymorth gan yr Arglwydd. Spurgeon “Gweddi yw allwedd y dydd a’r clo yn y nos.”
Adnod 3—I watch hynny yw Rwy’n aros yn ddisgwylgar Agwedd disgwylgar yn rheidrwydd wrth weddio George Muller - dau ffrind mynwesol heb eu achub. Gweddiodd e drostynt bob dydd am 60 mlynedd. Un yn cael ei achub wrth wrando Muller yn pregethu ei bregeth olaf a’r llall yn dod at Grist o fewn blwyddyn i farwolaeth Muller. Acts 12 Gweddio heb ddisgwyl am ateb yn beth ffol iawn. Pedr wrth y drws - agor y drws - Pedr - rwyt ti’n wallgof. Acts 12 (16) They were astonished
Dafydd yn gweddio ac yno yn aros yn ddisgwylgar i Dduw i ateb - fy mrenin a’m Duw. Drwy ffydd wedi mynd ateb i berthynas cyfamodol â Duw. Duw yn cynnig yr un math o berthynas a ni drwy Iesu Grist. Ioan 20 (28) FY Arglwydd a’m Duw Ioan 16 (23) Beth bynnag a ofynwch gan y Tad yn fy enw, fe fydd yn ei rhoi i chwi. Adnodau 4 - 6 Adoration - the chief matter of prayer Dim gofyn am ddim tan adnod 8 Mwy na hanner y salm - nesau at Dduw a’i addoli - gogoneddu Duw Addoli a gogoneddu a MOLI Duw am ei sancteiddrwydd. Reckoning with sin V7 But I Er fy mod yn bechadurus. God’s enduring love. Mercy is unearned blessing bestowed by God an unworthy recipient.
Making requests of God Verse 8 1) Arweiniad 2 Cymorth yn erbyn ei elynion
Adnodau 11 - 12 Llawenydd a thangnefedd yn deillio o weddio Gweddi yn ein newid ni - Duw yn ein bendithio gyda llawenydd a thangnefedd. Noddfa yw gweddi. Cf Philipiaid 4 (6-7) Rhufeiniaid 8 (31) Adenydd yr iar yn cysgodi - cau allan yr ofn. Tarian yn cuddio’r corf i gyd Derbyn popeth angenreidiol yn ysbrydol “Yng nghysgod yr orsedd gadarnaf. Mae’n ddigon i’r gwanaf gael nyth”
|