|
Hanes Eglwys y Bedyddwyr Carmel Pontlliw, Abertawe
Crynodeb o hanes Eglwys y Bedyddwyr Carmel Pontlliw, Abertawe
Saif Capel Carmel mewn man coediog ger yr heol A48, ryw saith milltir i’r gorllewin o ddinas Abertawe, Dechrau’r 19eg Ganrif, roedd clwstwr o ffermydd bychain o amgylch Pontlliw, ond yr oedd yn bentref o bwys gan fod yno Felyn Wlân a Gwaith Haearn - Lliw forge. Cynhaliwyd cyfarfodydd cychwynnol yr Achos yn ystordy Golosgoed y Forge pan wahoddwyd John Pugh, Gweinidog ‘Siloam’ Cila, i bregethu ac yna bu’n weinidog Carmel am 14 o flynyddoedd. Derbyniwyd Carmel i Gymanfa Bedyddwyr Morgannwg ym 1843. O’r cychwyn y mae Carmel wedi cynnal gweinidogaeth y Gair a Gofal Bugeiliol yn rheolaidd a chyson, a mae hyn wedi parhau hyd at yr 21ain Ganrif. Y Gweinidog presennol yw H. Vincent Watkins, ac yntau’n hanu o deulu’r gŵr a’r wraig gyntaf i’w bedyddio yno ym 1832. Y mae hanes clodwiw'r Ysgol Sul yn ymestyn yn ôl i 1840 o leiaf a hyd at heddiw y mae pwyslais ar Addysg Grefyddol ac esbonio’r Ysgrythurau. Agorwyd dwy gangen o’r Ysgol Sul ar ddechrau’r 20fed Ganrif. Datblygodd Ysgol Sul Pengelli (Grovesend) yn Eglwys Bethania ym 1908. Ychwanegwyd Festri i’r Capel ym 1893. Ym Mawrth, 1996, agorwyd Festri newydd, adeilad ar wahân, gerllaw'r Capel, ac ynddo ceir yr amwynderau mwyaf modern sy’n gyson a Rheoliadau Iechyd a Diogelwch. Mae’r Festri bellach yn ganolfan Gristnogol i drigolion y pentref. Parhad yw un o nodweddion Carmel, ond eto y mae wedi ymateb i amgylchiadau amryfal y blynyddoedd. Eglwys Gymraeg ei hiaith ydoedd yn gychwynnol ond wedi’r Ail Ryfel Byd, cynhaliwyd oedfaon dwyieithog ar fore Sul ac oedfa Gymraeg yn y prynhawn. Y mae nifer o ymwelwyr yn tystio iddynt brofi yma gyfeillach a chyfeillgarwch pentref gwledig. Hanfod ei chredo a’i bywyd yw Iesu Grist yn Arglwydd y byd a Gwaredwr dynolryw. “Yn nyddiau hedd a dyddiau loes,” fe ddyrchafwyd “Gŵr Rhyfedd y Groes.”
|
|
Eglwys y bedyddwyr carmel baptist church pontlliw |

|
Here is a newspaper cut-out pertaining to the "Special Service of Thanksgiving" held at Carmel to celebtate the installation of the "new organ". Other senior members of Carmel would recognise all the characters but my knowledge of their names would be, from left to fright, 1) Mr Coslet Davies ? 2) Mr Willy Walters 3) Mr David Mathias 4) Mr John Gwenter 5) unknown 6) Mr Ivor Owen, organist 7) Miss Annie Grey, Carmel's resident organist 8) unknown 9) Mr John Emlyn Mathias 10) Mr Cyril Morgan 11) Mr John Walters 12) Mr Hardin Thomas ( Anfonwyd gan Mr Rhydwen Mathias.) Diolch. |
|
Hanes Eglwys Carmel. Pontlliw |
|
Hafan |
|
English |
|
Ble i ni? |
|
Beth sydd mlaen |
|
Hanes yr Eglwys |
|
Ymlaen mis yma |
|
Digwyddiadau |
|
Ti a Fi |
|
Ysgol Sul |
|
Gweinidog a Swyddogion yr Eglwys Mis Medi 2009 |
|
Yn y llun, fe welwch rhai o gyn-aelodau Peniel, Pontlliw, yn dilyn oedfa arbennig i ddathlu cychwyn yr achos yn Peniel. Yn anffodus, daeth yr achos i ben rhyw flynyddoedd yn ôl, a datgorfforwyd yr Eglwys. Da yw dweud bod nifer dda o aelodau Peniel wedi ymuno â ni yng Ngharmel. ’Rydym yn mwynhau cyfeillach gynnes. |

|
Gwefannau |