DIGWYDDIADAU

Eglwys y bedyddwyr carmel baptist church pontlliw

Hafan

English

Ble i ni?

Beth sydd mlaen

Hanes yr Eglwys

Ymlaen mis yma

Digwyddiadau

Ti a Fi

Ysgol Sul

Dyma gyfle i chi weld beth sydd wedi bod yn digwydd yng Ngharmel yn ystod y flwyddyn diwethaf.

Gwefannau

Rhagfyr 2011

Am fwy o luniau’r Nadolig gwelwch dudalennau “Ti a Fi” a’r Ysgol Sul.

CARMEL YN DATHLU’R NADOLIG, 2011.

 

Cychwynnwyd dathliadau’r Nadolig yng Ngharmel ar yr 17eg o Ragfyr gyda pharti Nadolig i blant a ieuenctid y Festri.  A’r festri yn llawn, cafwyd hwyl a sbri a danteithion diri.  Cafwyd gwen ar bob wyneb wrth i’r plant a’r ieuenctid dderbyn anrheg Nadolig oddi wrth Siôn Corn.  Prynhawn hapus.  Diolch i bawb a weithiodd yn galed i drefni’r cyfan yn ddirwgnach.

Ar y Sul dilynol, sef yr 18fed, cynhaliwyd ein Drama Nadolig.  Dyma berfformiad gwych, yn dangos talent y rhai bach ( addewid i’r dyfodol ), ac yn enwedig y bobl ifanc.  Bu’r gwahanol olygfeydd yn wledd i’r llygaid.  Yn ystod y ddrama cafwyd eitemau o ddarllen, adrodd a chanu gan yr ieuenctid, a phob un yn llanw ein calonnau a bendithion a diolchgarwch.

Carwn, ar ran yr Eglwys, ddiolch i Brenda a’r tîm am fore fyth gofiadwy, y gorau am gyfnod hir.  Ac i Dduw bo’r gogoniant.

Yn y prynhawn cynhaliwyd oedfa’r oedolion, a drefnwyd gan Pauline.  Bu y brodyr a’r chwiorydd yn rhannu hanes llinach yr Iesu ac yn dangos mai nid o deulu uchel-ail yn unig y daeth ein Harglwydd, ond bod pum chwaer yn perthyn i’r teulu nad oeddynt o gymeriad glan, (darllenwch bennod 1 o Efengyl Mathew).  ‘Roedd yr ymateb yn gynnes a phawb wedi derbyn bendith o’r neges a oedd yn gorffen gyda hanes y geni ac yn croesawu pawb i benlinio wrth y crud.  Dydd Sul a fu’n clodfori Duw ac yn agor y ffordd at y preseb.

Ar nos Lun y 19eg o Ragfyr cynhaliwyd Oedfa Garolau yng Ngolau’r Canhwyllau.   ‘Roedd hi yn noson hyfryd,  a’r Capel dan ei sang, (‘roedd yn agos i 200 yn bresennol). ‘Roedd y Capel wedi ei addurno gyda chanhwyllau a’r olygfa yn creu naws fendithiol dros y lle.  Bu’r darlleniadau a chanu’r carolau yn rhoi hwb i’r galon, ac yn mynd â ni yn agosach at y crud.  Noson yng nghwmni’r Ysbryd Glan yn wir.  Ar ôl y gwasanaeth cawsom gyfeillach dros baned a mince pie, a phawb yn mwynhau cwmni’i gilydd.

Ar fore Sul y Nadolig cafwyd oedfa Gymun Dwyieithog.  ‘Roedd y Capel yn gysurus lawn a’r awyrgylch yn gynnes.  Cafwyd neges gan ein gweinidog y Parchedig H. Vincent Watkins, a fu’n dangos neges yr ymgnawdoliad yn glir ac yn fendithiol.  Cymerwyd at y Cymun Sanctaidd gan y Parchedig D. Islwyn Davies.  Diolch i Dduw am Ei bresenoldeb gyda ni drwy gydol yr Ŵyl.

Edrychwn ymlaen yn awr i Sul cyntaf Ionawr 2012 pan fyddwn yn cynnal Oedfa Gymun ddwyieithog.

Dymunai aelodau a ffrindiau Carmel, Pontlliw, flwyddyn newydd yn llawn bendithion i holl ddarllenwyr y Seren.

                                                   

PJE.