|
Neges y Gweinidog |
|
Eglwys y bedyddwyr carmel baptist church pontlliw |
|
Hafan |
|
English |
|
Ble i ni? |
|
Beth sydd mlaen |
|
Hanes yr Eglwys |
|
Cyn bo hir, fe fydd plant yr Ysgol Sul yn dathlu Gŵyl ein nawdd Sant, Dewi. Un o’r caneuon a genir yw :- “Mis Mawrth unwaith eto a’r Gwanwyn wedi dod” Mae W. Arvon Roberts, Pwllheli, yn ei erthygl gyfredol yn y Seren yn cyfeirio at y disgrifiad a gawn o wawr y gwanwyn yng Nghaniad Solomon 2: 11 – 12 “Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith; gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i’r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad.” Mae’n ddisgrifiad prydferth o dymor cyfoethog o addewidion ac adnoddau ar gyfer dyfodol y flwyddyn. Gweddiwn y daw hynny i fod yn wir yn ysbrydol yn ein heglwys yma yng Ngharmel yn gyffredinol.
Vincent Watkins Gweinidog. |
|
Ymlaen mis yma |
|
Cysylltwch â ni : negeseuon@carmelpontlliw.co.uk
Parchg. H. Vincent Watkins 01792 771650
|
|
Digwyddiadau |
|
Ti a Fi |
|
Ysgol Sul |