Gorffennaf 2011

BBQ ac Oedfa Deulu

YR HEN A’R IEUANC O’R UN FRYD, YN MWYNHAU BBQ A ‘HIGH TEA’ YNG NGHARMEL, PONTLLIW.

 

Ar  y 9fed o Orffennaf eleni, daeth dros 120 o aelodau a ffrindiau at eu gilydd i fwynhau BBQ a ‘High Tea’, un ar y lawnt wrth ochr festri Carmel, a’r llall yn y festri.  ’Roedd Duw yn Ei fawr drugaredd wedi anfon Heulwen braf i gynhesu corff ac enaid. ’Roedd yno fabanod mewn breichiau, plant bach, ieuenctid ac oedolion.  Hyfryd oedd gweld y teuluoedd newydd yn mwynhau cwmni eu gilydd, a phleser oedd clywed sŵn chwerthin a chwarae yn atseinio y tu mewn a’r tu allan.  Yn gwneud y cŵn poeth a’r burgers oedd John, Islyn a Malcolm.  Nia, Cadi, Joan a Hywel a llawer o ffrindiau ifanc oedd yn eu dosbarthu.

Yn y festri newydd ’roedd y gymdeithas yn felys, y sgwrsio yn llawn hwyl a phob un yn derbyn o’r BBQ yn ogystal â’r ‘High Tea’ a oedd wedi ei baratoi gan aelodau a ffrindiau Carmel.  Digonedd o frechdanau a danteithion a wna i’r dannedd ddwrhau, a phawb wedi cael eu gwala a’u gweddill o bob peth.  Cyfeillach yr Eglwys wrth eu gorau unwaith eto.  Ar ddiwedd y dydd derbyniwyd rhoddion o £450.00 tuag at Gronfa Apêl y BMS wedi ei aneli tuag at y tristwch mawr yn Nwyrain Affrica.

Diolch i bawb am eu haelioni.

Ar y Sul canlynol cynhaliwyd Oedfa Deulu a dros 100 eto yn bresennol gan gynnwys 3 teulu newydd.  Diolch i Dduw amdanynt!  Agorwyd yr Oedfa mewn gweddi gan Katherine Rees. Darllenodd Archie, Cellan, William a Beca rhan o lyfr Genesis, “Byd newydd Duw”.  Darllenwyd yr emynau gan Samuel, Owain ac Osian Dafydd.

Cafwyd nifer o eitemau gan y plant a’r ieuenctid a fu’n gysur i’r enaid a theimlwyd presenoldeb yr Ysbryd Glan yn ein plith.  Daeth un o’r plant a gwên lydan i wynebau y gynulleidfa pan aeth Iestyn i fyny’r pulpud i adrodd “Cwyn y Ci”.  Cafodd Iestyn pwl o chwerthin iachus a fethodd ddechrau ei adroddiad. ‘Roedd sŵn murmur chwerthin i’w glywed drwy’r Capel.  Yn y diwedd, llwyddodd, a chawsom adroddiad a oedd werth ei chlywed. Yn wir ’roedd pob un o’r plant ar eu gorau, a phawb wedi derbyn bendith.  Thema y cyfarfod oedd “Y Cread”, a “Chroeso” oedd at wraidd neges i’r plant gan ein gweinidog y Parchedig H. Vincent Watkins.  ’Roedd y moliant hefyd yn falm i’r ysbryd.  Diolch i Dduw am benwythnos i’w gofio unwaith eto.                                                              PJE.