Actau 4 (12)

Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall

Neither is there salvation in any other

 

Prif air adnod ein testun yw’r gair iachawdwriaeth – un o eiriau mwyaf a phwysicaf yr Efengyl. Dyma’r gair a ddefnyddir i fynegi a disgrifio ystyr a sylwedd neges fawr bywyd a gwaith yr Arglwydd Iesu Grist.

 

Neges yr angel i Joseff

 

Mathew 1 (21) “

A hi a esgor ar fab a thi a elwi ei enw Ef Iesu”

 h. y. Gwaredwr oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.

 

“And she shall bring forth a son, and thou shalt call his name Jesus”

 i.e. Saviour for he shall save his people from their sins.

 

Cyhoeddi a wna’r Testament Newydd yn ddidroi nol

 

Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall.

Mae i’r gair ystyr eang iawn – ei ystyr llythrennol – ymwared, dihangfa, diogelwch, esmwythâd

 

Fe olyga hefyd cadw, achub, iachau, gwaredu

 

Mewn termau materol ei ystyr yw ymwared oddiwrth niwed neu berygl neu elyn

 

Rhoddodd Iesu Grist  ystyr ysbrydol i’r gair

Daeth Crist i’r byd i waredu, i achub, i geisio, i gadw i iachau.

 

Ynddo Ef ac Ef yn unig y mae iachawdwriaeth – enaid pechadur, oherwydd Efe yn unig a all waredu dyn oddiwrth bechod.

 

Thema – Crist yr Iachawdwr – yr unig Iachawdwr

 

 

Barod i dderbyn Pechadur

 

Hoff gyhuddiad yr Ysgrifenyddion a’r Phariseaid

“ Y mae hwn yn derbyn publicanod a phechaduriaid.” Derbyn pawb – no distinction

 

Derbyn pobl a’u bywyd wedi llygru a distrywio gan bechod. Derbyn yn dyner, ddiffuant,ddirwgnach

 

Ydy’r Eglwys yn gwneud hynny heddiw?

Derbyn pechaduriaid – Gwisg neu galon sy’n bwysig?

 

Pwy bynnag a ddaw ni fwriaf ef allan ddim.

 

 

Mi glywais fod yr Iesu

A’i fod Ef felly’n awr

Yn derbyn publicanod

A phechaduriaid mawr

O! derbyn, Arglwydd, derbyn

Fi hefyd gyda hwy

A maddau’r holl anwiredd

Heb gofio’r camwedd mwy.

 

Beth sy mor rhyfedd â hynny – llawer yn barod i dderbyn pechaduriaid

 

Barod i drin pechadur

Derbyn pechaduriaid er mwyn ei defnyddio – y byd

 

Derbyniad heb driniaeth ddim yn ddigon.

 

Galw am allu arbennig i drin enaid a chalon pechadur.

 

Gwaith anodd, peryglus, pwysig yw iachau dyn.

Become tarnished ourselves – bwyta gyda nhw

 

Pobl dost i ni gyd – mwyafrif ddim yn ymwybodol o hynny.

Bydd drugarog wrthyf fi bechadur – cri y lleiafrif.

 

Galw am allu arbennig i drin pechadur – nid condemnio ond codi – nid wyf finnau yn dy gondemnio.

 

A oes meddyginiaeth ?

Iachawdwriaeth. Onid oes balm yn Gilead.

Un sy’n deall yr afiechyd. Oes medd yr Efengyl. Yng Nghrist – ac Efe yn unig.

 

Trin pechadur yn ofalus, yn obeithiol – Tad yn aros pa mor bell bynnag i ni wedi mynd

Billy Bray – no hoper

 

Un wedi trio triniaeth tipyn o bawb yw

awdur yr emyn

Ti yn unig, O fy Nuw

A all drin fy nghalon friw

 

O fy Iesu’r meddyg da

Atat dof i wella mhla.

 

Barod i ddiwallu pechadur

 

He makes the wounded spirit whole.

 

Dyna iachawdwriaeth hyfryd

wedi ei threfnu gan fy Nuw

Ffordd i gadw dyn colledig

Balm i wella dynol ryw

Dyma ddigon i un euog fel myfi.

 

O iachawdwriaeth gadarn

O iachawdwriaeth glir

 

W Williams

 

 

Yng nghlwyfau’r Oen fu farw

Yn unig mae iachâd

 

Nid oes arnaf gywilydd

Er iachawdwriaeth

Unig obaith y byd

 

Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall.