|
Ro'n ni'n darllen stori mewn cylchgrawn am Einstein yn teithio ar y trên allan o Efrog Newydd. Wrth i'r casglwr tocynnau, agosau at ei gerbyd, dyma Einstein yn dechrau chwilio'n ddyfal drwy ei bocedi am ei docyn. Erbyn i ddyn y tocynnau gyrraedd y man lle'r oedd Einstein yn eistedd, roedd e wedi troi allan ei bocedi yn ei drowsus a'i got ac wedi dechrau edrych drwy ei fag lleder. Fe adnabyddodd dyn y tocynnau Einstein ac meddai "Paid becso, rwy'n dy drystio di" ac ymlaen yr aeth i gasglu tocynnau gweddill y teithwyr. Mewn hanner awr dyma'r casglwr tocynnau yn dod yn ôl ac erbyn hyn roedd Einstein yn blocio'r ale, lawr ar ei ddwylo a'i ben‑gliniau, yn edrych ac yn chwilio am ei docyn dan y seddau a'r bagiau. Wrth ei weld dyma'r casglwr tocynnau yn ail adrodd "Doctor Einstein, peidiwch becso am ffeindio'ch tocyn, fe ddwedais i fy mod i'n eich trystio" Dyma Einstein yn ateb " Machgen i, nid mater o ymddiriedaeth yw hyn. Mater o gyfeiriad yw e. Does gen i ddim syniad i ble rwy'n mynd"
Heddiw, fel Eglwysi, i ni mewn cyfnod o newidiadau mawr. Mae'r hen yn darfod a rydym ni ddim yn rhy siwr beth mae'r newydd yn mynd i gynnig. Mae'r Eglwysi yn rhedeg allan o arian, yn rhedeg allan o aelodau. Ond nid yn unig rhedeg allan o arian ac aelodau ond hefyd arwyddocâd - ystyr. "Ble i ni'n mynd bois?" yw'r cwestiwn a ofynnir yn aml.
Ond yng nghanol yr argyfwng a'r newidiadau i gyd, mae gennym, o dan arweiniad yr Ysbryd Glân, gyfle i osod cynllun newydd ar gyfer yr Eglwys. Allan o anhrefn y presennol, fe all Cristnogion ddechrau'r broses o adnewyddiad. Fel mae'r hen draddodiadau a strwythurau, a hen ffyrdd o wneud pethau yn dadfeilio, fe all delfryd newydd o'r hyn mae'n golygu i fod yn rhan o gymdeithas Crist gael ei ffurfio.
Ac felly, dw i am son am bedwar peth penodol, mae na eraill wrth gwrs, wrth wynebu her y tystio.
1. Os yw'r Eglwys i wynebu her y tystio ymlaen i yfory ei phrofiad rhaid iddi symud o fod yn ffug / gau gymdeithas i fod yn gymdeithas real. Am rhy hir mae llawer o Eglwysi wedi hawlio eu bod yn gymunedau ffydd, pan mewn realiti doedden nhw yn ddim byd mwy na chlybiau cymdeithasol Eglwysig. Os am wybod beth yw bod yn wir gymuned ffydd rhaid troi at Lyfr yr Actau 4 (32) Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o'i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin. Mae'r nod o un galon ac enaid yn golygu bod pob un yn gofalu am y llall oherwydd bod cariad Crist yn ein clymu ni'n un. Mae'n golygu rhoi o wirfodd er lles yr Eglwys gyfan. Nid unigolion yn llenwi seddau'r Capel yw dilynwyr y Crist, ond teulu yn ceisio helpu ei gilydd i adeiladu teyrnas Crist. Mewn byd lle mae pawb yn meddwl am hunan les, mae gan y Cristion gyfle i ddangos ffordd ragorach, ac mae pobl yn newynu am y math yma o gariad a gofal.
2. Os yw'r Eglwys i wynebu her y tystio ymlaen i'r yfory, rhaid i'r arweinyddion symud o safle yr arweinydd awdurdodol, i'r arweinydd sy'n barod i wasanaethu. Un o frawddegau mwyaf chwyldroadol yr Arglwydd Iesu oedd y frawddeg hon Matthew 20 (28)
Ni ddaeth Mab y Dyn i'w wasanaethu ond i wasanaethu.
Fe wnaeth y datganiad yma o'i bwrpas i droi dealltwriaeth y byd o arweinyddiaeth yn gyfangwbl wyneb i waered. Roedd Iesu yn arweinydd yng ngwir ystyr y gair. Roedd ei ddilynwyr yn ei alw yn Feistr. Ond arweinydd oedd yn barod i wasanaethu oedd e, a meistr oedd yn barod i wasanaethu. Tybed a fyddai Iesu am y teitl Parchedig neu gwir Barchedig neu Parchedicaf neu Ddoctor? Rhyw ffordd dydy e ddim yn swnio'n iawn. Gwrthod dealltwriaeth y byd o falchder a gallu a safle wnaeth Iesu. Ac oni elwir arnom ni i wneud yr un peth.
3. Os yw'r Eglwys i wynebu her y tystio i'r yfory, rhaid symud i ganolbwyntio ar weinidogaeth yn hytrach nag addoliad.
Mae gweinidogaeth yn fwy arwyddocaol nag addoliad. Mae addoliad wedi bod gyda ni ers y cychwyn, ac a fydd gyda ni hyd y diwedd. Ond mae'r syniad ein bod yn dod at ein gilydd i baratoi am weinidogaeth i'r byd yn syniad pwerus. Mae tudalen ar ôl tudalen o'r Testament Newydd yn canolbwyntio ar weinidogaeth. Yn ein dydd ni mae'r addoliad wedi cymryd lle gweinidogaeth gan adael i'r person sy'n mynychu oedfa deimlo bod ei ddyletswydd Cristnogol wedi cwblhau am yr wythnos. Roeddwn i'n hoffi cyfeiriad Mrs Haulwen James yn ei hanerchiad yn y Seren yn ddiweddar. Wrth iddi adael y capel - Eglwys Fedyddiedig Waikiki yn Hawaii, gwelodd wedi ei ysgrifennu yn y cyntedd - "Rydych yn awr yn mynd i mewn i'r Maes Cenhadol."
4. Os yw'r Eglwys i wynebu her y tystio i'r yfory, rhaid i weinidogaeth yr ychydig droi yn weinidogaeth yr holl saint. Er bod dealltwriaeth o offeiriadaeth yr holl saint wedi bod yn rhan o'r Eglwys ers Martin Luther rydym yn dal i frwydro i wneud i'r peth weithio.
Mewn ysgol yn ddiweddar, roeddwn yn dweud neges ynglŷn â rhannu'r newyddion da.
"Pwy sy fod i wneud e?" gofynnais Crwt yn ateb "Y ficer syr"
Ar hyn o bryd, dydy gweinidogaeth ddim yn cael ei ddeall fel rhywbeth sy'n cynnwys pobl Dduw i gyd, ac mae llawer ohonom yn cael hi'n anodd i helpu aelodau i ddarganfod y doniau mae Duw wedi rhoi iddynt er mwyn cynorthwyo'r gwaith.
Mae gan y Crynwyr hanesyn am ymwelydd yn dod i mewn i dawelwch y Tŷ Cwrdd i addoli, ac yn gofyn i'r person oedd yn eistedd nesaf ato. "Pryd mae'r gwasanaeth yn dechrau." Ateb y crynwr. "Pan mae'r addoliad ar ben." Mae hwn yn hanesyn pwysig er mwyn deall gweinidogaeth yr holl saint.
Mae gwasanaeth, hynny yw, gweinidogaeth yn dasg i bawb. Ac os nag ydym yn cysylltu ein profiad personol o fywyd gyda'n ffydd Gristnogol, fe allwn droi allan i fod yn Gristnogol iawn yn bersonol, ond heb fod y gweinidog Cristnogol mae Duw yn galw bob yr un ohonom i fod.
|