Neges y Gweinidog

Eglwys y bedyddwyr carmel baptist church pontlliw

Hafan

English

Ble i ni?

Beth sydd mlaen

Hanes yr Eglwys

Ymlaen mis yma

Cysylltwch â ni : negeseuon@carmelpontlliw.co.uk

 

Parchg. H. Vincent Watkins

01792 771650 

 

Digwyddiadau

Ti a Fi

Ysgol Sul

Gwefannau

Fel pawb gobeithio, fe ges i a’r teulu llawer o gardiau Nadolig a sawl anrheg yn ogystal. Mae llawer o’r anrhegion wedi diflannu yn barod, a’r pwysau oherwydd wedi cynyddu. Fe fydd eraill, fel calendr yr Eglwys a desg lyfrau, yn para ar hyd y flwyddyn gron. Un arall o’r anrhegion fydda i’n troi ato bob dydd, yw’r calendr dyddiol ag adnod arbennig am bob dydd o’r flwyddyn.

Mae’r adnod ar gyfer Dydd Mercher, Chwefror 1af, 2012 yn her ddyddiol i bob Cristion

2 Corinthiaid 4:18 “Dim ond inni gadw’n golwg, nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau na welir. Dros amser y mae’r pethau a welir, ond y mae’r pethau na welir yn dragwyddol.”

 

Vincent Watkins

Gweinidog.